Neges Heddwch 1949

O 1949 ymlaen cyflwynodd ieuenctid lleol neges heddwch o lwyfan Eisteddfod Llangollen, menter gan y cadeirydd Jack Rhys Roberts. Roedd Llangollen yn mabwysiadu ac yn addasu testun yr Urdd bob blwyddyn.

Mae’r ddogfen yn dangos testun Neges Heddwch yr Urdd 1949 yn Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg.

Darganfyddwch fwy yma: Y Neges Heddwch

Argyfwng Arweinyddiaeth 1947

Cyn i’r ŵyl ddod i ben, cyhoeddodd yr Arlywydd Clayton Russon a’r Cadeirydd George Northing i’r wasg y byddai Llangollen yn cynnal ail eisteddfod ryngwladol yn 1948. Sbardunodd hyn ffrae annisgwyl, ac argyfwng arweinyddiaeth. Roedd Harold Tudor eisiau i’r Eisteddfod Ryngwladol a greodd symud o gwmpas fel y Genedlaethol, a cheisiodd ennyn cefnogaeth y cyhoedd drwy’r wasg, gan greu protest aruthrol yn Llangollen.

 

Eisteddfod Ryngwladol Gyntaf 1947: Movietone Newsreel

The eight minutes and twenty seconds of this film are a unique audiovisual record of the first festival in 1947. You’ll see and hear the winning choirs. You’ll share the excitement with the audience packed into the marquee, made from war surplus canvas with 6000 seats borrowed from schoolrooms, chapels and elsewhere round the area…