Paratowyd y gwahoddiad gan W.S Gwynn Williams i’w ddosbarthu gan y Cyngor Prydeinig. Dyma’r wŷs wreiddiol a anfonwyd allan i alw cystadleuwyr tramor i’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol gyntaf erioed yn Llangollen yn ôl yn 1947 ac mae’r teimlad y tu ôl iddi yn dal i fod yn wir heddiw.