Prosiect Archifau

Croeso i’r Archif yr Eisteddfod Gerddorol Rhyngwladol Llangollen

Mae’r archif yn gasgliad unigryw o hanes yr Eisteddfod, y buddugoliaethau, problemau a’i chyfrinachau.

Yn y wefan, cewch weld, ddarllen a gwrando ar ddigwyddiadau, yn aml yng ngeiriau a lleisiau’r rhai oedd yna. Cewch daith ynghyd â sylwadau ac eglurhad arbenigwyr.

Mae’r llythyron, dogfennau, eitemau, delweddau a defnydd clyweledol yn yr archif yn ymwneud â’r syniadau cyntaf yn 1943. Cawn hanes y cystadleuwyr o 140 gwlad ac ardal, a gymerodd ran dros y blynyddoedd, a’r gwirfoddolwyr, cannoedd ohonynt, a weithiodd mor ddiflino bob blwyddyn, i sicrhau parhad yr ŵyl.

 

Mae yma’r cefndir i  brif ddigwyddiadau cyfarwydd, fel yr Ymweliadau Brenhinol, cyngherddau artistiaid o fri, Gwyl Prydain 1951 a ‘r gais am  Wobr Heddwch Nobel. Cawn wybodaeth am ddrychynebau potensial, er enghraifft, y noson pan fu bron i’r babell ddymchwel mewn storm. Cawn hanes ddarllediadau cynnar yn hybu’r ŵyl mewn sain, a ffilmiau rhaglenni’r BBC, a chamerau Movietone News yn 1947.

Ceisiwn gyflwyno stori’r 75 mlynedd o’r Eisteddfod, gyda chyffro’r miwsig a dawns sy’n arwyddacaol o hwyl arbennig Llangollen. Gobeithiwn wneud cyfiawnder â’r gwaith enfawr a gyflawnwyd gan filoedd o wirfoddolwyr, ac hefyd i gyfraniad y cystadleuwyr, sydd wedi dwyn naws arbennig i fro hyfryd y Ddyfrdwy.

Mae’r archif yn mynegi, hefyd, gwir arbenigrwydd yr Eisteddfod yn y blynyddoedd cynnar: cyn hyn, ni brofwyd yn unman arall y gymysgedd o ryngwladoldeb  a  cherddoriaeth. Mae parhad yr ŵyl dros saith degawd yn gyflawniad nodedig gan gymuned fechan Gymreig.

Helpwch ni i greu hanes!

Rydym yn croesawu adborth, sylwadau a beirniadaeth adeiladol, y gellir gwneud pob un ohonynt drwy’r dudalen cymryd rhan. Ond sylwch fod y wefan hon yn cael ei lansio. Nid yw sawl agwedd ar yr Eisteddfod wedi’u cynnwys eto. Os nad yw eich ffefrynnau – fel y blodau neu’r orymdaith – wedi’u gorchuddio eto, byddant yno’n fuan.