Categorïau
Pabell Archif Arbennig Llangollen Ar-lein Newyddion

Archif Llyfr Fflip

Mae’r casgliad hwn o bosteri a ddangosir ym Mhabell Archif yr Eisteddfod rhwng 2016 a 2019 yn rhoi hanes ffeithiol cryno o’r ŵyl. Mae’n seiliedig ar gofnodion sydd wedi’u gwirio. Eleni rydym wedi eu troi’n llyfr fflip y gellir ei weld YMA neu ei lawrlwytho o AMAZON. Fe welwch linell amser yn adrodd ar y […]

Categorïau
Pabell Archif Arbennig Llangollen Ar-lein Newyddion

Yr Eisteddfod Ryngwladol Gyntaf 1947: ffilm newyddion Movietone

Mae wyth munud ac ugain eiliad y ffilm hon yn gofnod clyweledol unigryw o’r ŵyl gyntaf yn 1947. Ynddi mi fyddwch yn gweld a chlywed y corau buddugol. Byddwch yn rhannu’r cyffro gyda’r gynulleidfa sy’n llenwi’r babell fawr, a wnaed o gynfas dros ben o’r rhyfel gyda 6000 o seddi wedi’u benthyg o ystafelloedd ysgol, […]

Categorïau
Pabell Archif Arbennig Llangollen Ar-lein Newyddion

Cyfarwyddwr a enillodd Oscar yn gwneud ffilm am Eisteddfod Llangollen

Mae “The World Still Sings” yn ffilm ddogfen o Eisteddfod Ryngwladol 1964, ac fe’i cyfarwyddwyd gan Jack Howells a’i chynhyrchu ar y cyd gan gwmni Howells ei hun a Chwmni Esso Petroleum, Ltd. Yn 1962 enillodd Howells wobr Oscar am ei raglen ddogfen ar Dylan Thomas, ac ar adeg ffilm yr Eisteddfod roedd yn gweithio […]

Categorïau
Pabell Archif Arbennig Llangollen Ar-lein Newyddion

Yr Archif Sain

Mae recordiadau sain wedi cael eu gwneud o Eisteddfod Llangollen ers yr ŵyl gyntaf un yn 1947. Yn y rhan o’n Archif sydd ar hyn o bryd yn cael ei gadw ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol, mae gennym recordiad o Gôr Ieuenctid Coedpoeth yn canu ‘Robin Ddiog’ yn ystod Eisteddfod 1947. Nid yw ansawdd […]

Categorïau
Pabell Archif Arbennig Llangollen Ar-lein Newyddion

Archifo’r Gorffennol

Roeddem yn edrych ymlaen at eich cyfarfod chi i gyd yn Eisteddfod eleni a rhannu ein gweledigaeth ar gyfer y prosiect Archifo’r Gorffennol. Gan nad yw hynny’n bosibl yn anffodus, rydym wedi ysgrifennu nifer o flogiau er mwyn creu Pabell Archif rithwir eleni i sôn mwy wrthych am y prosiect.