Cyn i’r ŵyl ddod i ben, cyhoeddodd yr Arlywydd Clayton Russon a’r Cadeirydd George Northing i’r wasg y byddai Llangollen yn cynnal ail eisteddfod ryngwladol yn 1948. Sbardunodd hyn ffrae annisgwyl, ac argyfwng arweinyddiaeth. Roedd Harold Tudor eisiau i’r Eisteddfod Ryngwladol a greodd symud o gwmpas fel y Genedlaethol, a cheisiodd ennyn cefnogaeth y cyhoedd drwy’r wasg, gan greu protest aruthrol yn Llangollen.

 

 

Y toriadau yn y wasg a sbardunodd yr argyfwng arweinyddiaeth:1947-Leadership-crisis (pdf)