{"id":13901,"date":"2020-07-10T07:30:17","date_gmt":"2020-07-10T07:30:17","guid":{"rendered":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/?p=13901"},"modified":"2020-07-10T07:30:17","modified_gmt":"2020-07-10T07:30:17","slug":"the-first-international-eisteddfod-1947-movietone-newsreel","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/2020\/07\/10\/the-first-international-eisteddfod-1947-movietone-newsreel\/","title":{"rendered":"Yr Eisteddfod Ryngwladol Gyntaf 1947: ffilm newyddion Movietone"},"content":{"rendered":"<p>Mae wyth munud ac ugain eiliad y ffilm hon yn gofnod clyweledol unigryw o&#8217;r \u0175yl gyntaf yn 1947. Ynddi mi fyddwch yn gweld a chlywed y corau buddugol. Byddwch yn rhannu&#8217;r cyffro gyda&#8217;r gynulleidfa sy\u2019n llenwi\u2019r babell fawr, a wnaed o gynfas dros ben o&#8217;r rhyfel gyda 6000 o seddi wedi&#8217;u benthyg o ystafelloedd ysgol, capeli a llefydd eraill o\u2019r ardal. Mae\u2019r Llywydd cyntaf, Mr W. Clayton Russon, yn egluro cysyniad sylfaenol yr Eisteddfod o sut y gall cystadleuaeth gerddorol ryngwladol helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth a chysylltiadau cyfeillgar rhwng pobl o wahanol genhedloedd. Mae&#8217;r cyflwynwyr ar y llwyfan, a fenthycwyd yn 1947 gan yr Eisteddfod Genedlaethol, yn brysur a di-lol, yn union fel y maen nhw yn ein dyddiau ni.<!--more--><\/p>\n<p>Fel oedd yn gyffredin yn y blynyddoedd cynnar, roedd y rhan fwyaf o&#8217;r cyngherddau&#8217;n cynnwys y cystadleuwyr, ond roedd nosweithiau enwogion ar y dydd Sadwrn a&#8217;r dydd Sul yn cynnwys s\u00ear fel Joan Hammond a Cherddorfa Hall\u00e9 dan arweiniad John Barbarolli. Yn negawd cyntaf yr \u0175yl denodd y cyngherddau amryw o berfformwyr cerddoriaeth glasurol, opera a dawns byd enwog i Langollen.<\/p>\n<p>Syndod, i&#8217;r trefnwyr a&#8217;r gynulleidfa, oedd perfformiadau cyngerdd gan ddau gr\u0175p dawns o Sbaen. Roedden nhw ar daith o amgylch Prydain, wedi\u2019i threfnu gan y Gymdeithas Esperanto. Roedd eu perfformiadau yn yr \u0175yl mor gyfareddol nes cymell yr Eisteddfod i gyflwyno cystadlaethau dawnsio gwerin a chanu gwerin gael yn 1948, gan ddod yn brif atyniad yn gyflym iawn. Wrth edrych ar y bwrlwm dawnsio ar y ffilm newyddion, gallwch weld y rheswm dros y straeon am yr angen am fesurau brys i atgyfnerthu&#8217;r llwyfan.<\/p>\n<p>Un o\u2019r dirgelion yngl\u0177n \u00e2 1947 yw pam, yng \u201cNgwlad y G\u00e2n\u201d, nad oedd unrhyw gorau meibion o Gymru ymhlith y cystadleuwyr. Wedi&#8217;r cyfan, daeth tri ch\u00f4r meibion o Loegr i\u2019r \u0175yl, ac felly hefyd chwe ch\u00f4r merched o Gymru. Mae llawer o esboniadau wedi&#8217;u cynnig dros y blynyddoedd: ofn o feirniadaeth am eu safon; costau mynychu&#8217;r Eisteddfod Genedlaethol a\u2019r Eisteddfod Ryngwladol; anogaeth fwriadol i beidio mynychu Llangollen gan yr Eisteddfod Genedlaethol, y mae ei phryderon am yr \u0175yl ifanc newydd wedi&#8217;u dogfennu mewn gohebiaeth archif. Gwell gadael hynny i&#8217;r rhai sy&#8217;n gweld cynllwyn ym mhob twll a chornel, ac yn lle hynny dathlu perfformiad C\u00f4r Meibion enwog Froncysyllte, a sefydlwyd yn 1948 i unioni&#8217;r cam.<\/p>\n<p>Yn 1947 roedd yr Eisteddfod Ryngwladol i raddau helaeth iawn yn greadigaeth cymuned Llangollen. Gwnaeth llawer o arwyr gyfraniadau enfawr ar hyd y daith o syniad cychwynnol yn 1943 i&#8217;r grwpiau rhyngwladol a gyrhaeddodd Llangollen ym mis Mehefin 1947, ond arweinyddiaeth Cyngor Dosbarth Trefol Llangollen ym mis Mai 1946 a welodd troi\u2019r syniad am y digwyddiad yn ffaith. O&#8217;r cychwyn cyntaf roedd uchelgais i fod yn annibynnol. Croesawyd cymorth y Cyngor Prydeinig i ddod o hyd i grwpiau yn Ewrop, ond gwrthodwyd eu cynnig o gymorth ariannol: ariannwyd yr Eisteddfod gyntaf gan danysgrifiadau lleol. Cyn diwedd y pum niwrnod roedd y trefnwyr lleol wedi ymrwymo\u2019n gyhoeddus i gynnal g\u0175yl arall yn Llangollen yn 1948, er gwaethaf rhai lleisiau oed dyn dadlau y dylai symud o amgylch Cymru fel yr Eisteddfod Genedlaethol. Ers 1947, un o rinweddau mawr y gwirfoddolwyr yw teyrngarwch ffyrnig i&#8217;r syniad o gynnal digwyddiad blynyddol yn Llangollen.<\/p>\n<p>Cysylltodd trefnwyr 1947 \u00e2 sawl cwmni ffilmiau newyddion i roi sylw i&#8217;r Eisteddfod. Movietone enillodd y dydd bryd hynny oherwydd bod y cwmni&#8217;n gallu ymdopi orau \u00e2&#8217;r cyflenwadau p\u0175er cyfyngedig oedd ar gael ar Faes Hamdden Llangollen.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.aparchive.com\/metadata\/INTERNATIONAL-CHOIR-COMPETITION-SOUND\/deb00a535c134152960cd311fa2db4fe?query=llangollen&amp;current=1&amp;orderBy=Relevance&amp;hits=1&amp;referrer=search&amp;search=%2fsearch%3fstartd%3d06%252F01%252F1947%26endd%3d07%252F30%252F1947%26allFilters%3d01%252F06%252F1947-30%252F07%252F1947%253ADate%252CBlack%2b%2526%2bWhite%257CFalse%253AIsColor%252CTrue%253AIsDigitized%252CBritish%2bMovietone%257C43894%253APartner%253APartner%26query%3dllangollen%26advsearchStartDateFilter%3d01%252F06%252F1947%26advsearchEndDateFilter%3d30%252F07%252F1947%26searchFilterHdSDFormat%3dAll%26searchFilterDigitized%3dTrue%26searchFiltercolorFormat%3dBlack%2b%2526%2bWhite%257CFalse%26searchFilteraspectratioFormat%3dAll&amp;allFilters=01%2f06%2f1947-30%2f07%2f1947%3aDate%2cBlack+%26+White%7cFalse%3aIsColor%2cTrue%3aIsDigitized%2cBritish+Movietone%7c43894%3aPartner%3aPartner&amp;productType=IncludedProducts&amp;page=1&amp;b=2db4fe\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Cliciwch Yma<\/a> i wylio&#8217;r ffilm.<\/p>\n<p>Yn ymddangos yn y ffilm, yn eu trefn:<\/p>\n<ul>\n<li>Corau Merched yn canu \u201cThis Little Babe\u201d gan Benjamin Britten<\/li>\n<li>C\u00f4r Merched Femina, Amsterdam<\/li>\n<li>Grupo Musicale Feminino, Porto (oedd yn enwog am deithio i Llangollen mewn bws coch a melyn)<\/li>\n<li>Cymdeithas Gorawl Merched Penarth<\/li>\n<li>C\u00f4r Meibion y Gweithwyr Hwngari yn canu &#8220;Hey Nonny No&#8221;, sef perfformiad buddugol y gystadleuaeth<\/li>\n<li>Dawnswyr Sbaenaidd yn perfformio eu dawns draddodiadol &#8220;Fandango Sequidillas&#8221;<\/li>\n<li>Amsterdamsch Kamerkoor yn canu &#8220;Die Winter is Verganghen&#8221;<\/li>\n<li>C\u00f4r Cymysg Undeb Corawl Belffast yn canu &#8220;Quick, we have but a second&#8221;<\/li>\n<li>Madrigalkoren I Kalmar yn canu\u2019r g\u00e2n werin &#8220;Gottland&#8221; (y gr\u0175p hwn o Sweden oedd y cyntaf i gyrraedd Llangollen)<\/li>\n<li>C\u00f4r Cymysg Cymdeithas Gerddorol Sale a\u2019r Ardal yn canu &#8220;Early One Morning&#8221;, gyda&#8217;u harweinydd yn derbyn tlws<\/li>\n<\/ul>\n<p><i>Chris<\/i><\/p>\n<p>Chris Adams<br \/>\nBwyllgor Archifau\u2019r Eisteddfod<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n ddrwg gen i, mae&#8217;r cofnod hwn dim ond ar gael mewn English. The eight minutes and twenty seconds of this film are a unique audiovisual record of the first festival in 1947. You\u2019ll see and hear the winning choirs. You\u2019ll share the excitement with the audience packed into the marquee, made from war surplus [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":13840,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[26,27,28,29],"tags":[],"class_list":["post-13901","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-archive-tent","category-featured","category-llangollen-online","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13901","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13901"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13901\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13901"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13901"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13901"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}