{"id":13854,"date":"2020-07-09T07:30:48","date_gmt":"2020-07-09T07:30:48","guid":{"rendered":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/?p=13854"},"modified":"2020-07-09T07:30:48","modified_gmt":"2020-07-09T07:30:48","slug":"oscar-winning-director-makes-a-film-about-the-llangollen-eisteddfod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/2020\/07\/09\/oscar-winning-director-makes-a-film-about-the-llangollen-eisteddfod\/","title":{"rendered":"Cyfarwyddwr a enillodd Oscar yn gwneud ffilm am Eisteddfod Llangollen"},"content":{"rendered":"<p><br \/>\nMae \u201cThe World Still Sings\u201d yn ffilm ddogfen o Eisteddfod Ryngwladol 1964, ac fe\u2019i cyfarwyddwyd gan Jack Howells a\u2019i chynhyrchu ar y cyd gan gwmni Howells ei hun a Chwmni Esso Petroleum, Ltd. Yn 1962 enillodd Howells wobr Oscar am ei raglen ddogfen ar Dylan Thomas, ac ar adeg ffilm yr Eisteddfod roedd yn gweithio i ITV ar ffilm am Aneurin Bevan. Trwy ddewis ffilmio Eisteddfod Llangollen gosododd yr \u0175yl yn gadarn ym mhantheon digwyddiadau eiconig Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r teitl yn ymateb i linellau o ddarllediad radio Dylan Thomas ym 1953 am \u0175yl Llangollen:<\/p>\n<p> \u201cAre you surprised that people still can dance and sing in a world on its head? The only surprising thing about miracles, however small, is that they sometimes happen.\u201d<\/p>\n<p><!--more--><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/youtu.be\/5a8kaefwRn8\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Gwylich y ffilm yma<\/a><\/p>\n<p>Mae\u2019r ffilm o 18fed Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 1964 yn cyfleu&#8217;r \u0175yl ar anterth y cyfnod cynnar hynod lwyddiannus. Mae ei ffocws ar y cystadleuwyr, fel yr oedd yr holl sylw mewn papurau newydd a darllediadau. Roedd cystadleuwyr o 17 gwlad yn ychwanegol i wledydd y Deyrnas Unedig, a thua 20 o grwpiau corawl neu ddawns yn cymryd rhan ym mhob un o&#8217;r prif gystadlaethau. Daeth yr enillwyr o Orllewin yr Almaen, Lloegr, yr Eidal, yr Wcrain (cymuned alltud o drigolion y wlad oedd yn byw ar y pryd ym Manceinion), Portiwgal a Sweden.<\/p>\n<p>Mae rhywun yn cael cipolwg yn y ffilm o&#8217;r bri oedd ynghlwm wrth y digwyddiad yn y cyfnod. Cafwyd ymweliad brenhinol (y Dywysoges Margaret a\u2019r Arglwydd Snowdon). Mynychwyd yr \u0175yl hefyd gan Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, James Griffiths. Rhoddwyd sylw i\u2019r digwyddiad ar y teledu ledled y Deyrnas Unedig, ac roedd y darllediadau\u2019n cael eu harwain gan gyflwynwyr blaenllaw a dreuliodd yr wythnos gyfan yn Llangollen. Daeth gohebwyr a ffotograffwyr o&#8217;r holl brif bapurau newydd ac asiantaethau newyddion draw i\u2019r Eisteddfod. Roedd y maes dan ei sang bob dydd. Hefyd yn amlwg o&#8217;r ffilm yw&#8217;r ffordd y mae&#8217;r \u0175yl yn ymledu trwy&#8217;r dref, sy\u2019n ddim syndod o gofio bod llawer o&#8217;r cystadleuwyr yn aros yn lleol. Roedd canu a dawnsio digymell yn hwyr y nos yn llenwi&#8217;r cartrefi a&#8217;r gwestai a&#8217;r tafarndai.<\/p>\n<p>Yn wahanol i heddiw, ychydig o gyhoeddusrwydd a gafodd y cyngherddau. Fe&#8217;u llanwyd gyda&#8217;r cystadleuwyr yn perfformio darnau arbennig. Roedd y perfformwyr proffesiynol yn cynnwys: Telynor Sbaenaidd; a Geraint Evans, y bariton poblogaidd o Gymru. Cyflwynodd y cyngerdd agoriadol Bale Cenedlaethol Tsiecoslofacia; a daeth yr wythnos i ben gyda llu o fandiau pres yn chwarae.<\/p>\n<p>Edrychwch yn agos ar y ffilm a\u2019r hyn sy&#8217;n eich taro yw\u2019r cyfraniad a wneir ym mhobman gan wirfoddolwyr, a chan absenoldeb masnacheiddio. Ar wah\u00e2n i ychydig o stondinau bwyd, nid oes consesiynau ar y maes. Mae gan y pebyll bach ethos iwtilitaraidd cryf, sy&#8217;n nodweddiadol o&#8217;r \u0175yl: swyddfa bost, Bwrdd Croeso Cymru, papurau newydd, banciau, sefydliadau sy&#8217;n hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol. Er gwaethaf ei bolisi o gadw prisiau tocynnau mor isel \u00e2 phosibl i annog presenoldeb, roedd yr Eisteddfod yn llwyddo fwy neu lai i sicrhau cyllideb gytbwys; defnyddiwyd grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn ddiweddarach gan awdurdodau lleol ar gyfer gwelliannau, nid i dalu costau rhedeg.<\/p>\n<p>Edrychwch yn agosach fyth ac mi welwch chi\u2019r Cadeirydd presennol Rhys Davies yn fachgen ifanc angylaidd.<\/p>\n<p>Yn olaf, mae gwreiddiau&#8217;r ffilm yn dipyn o ddirgelwch. Daeth y syniad am y fenter gan Esso, a gysylltodd gyda Jack Howells, ond nid oes papurau am y ffilm yn archif Jack Howells yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ni allai Exxon Mobil daflu unrhyw oleuni pellach chwaith. Mae&#8217;n berthnasol efallai bod y cwmn\u00efau olew mawr ar y pryd yn hyrwyddo twristiaeth fel ffordd o gynyddu gwerthiant petrol. Serch hynny, roedd dewis Jack Howells fel cyfarwyddwr yn ysbrydoledig. Roedd ei raglen ddogfen ar Dylan Thomas wedi ennill Oscar yn 1962, yr unig ffilm Gymreig erioed i wneud hynny, ac roedd ganddo ffordd dda gyda phynciau Cymreig. Llwyddodd i lunio portread cofiadwy o Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen mewn blwyddyn dda.<\/p>\n\n<p>Mwynhewch!<\/p>\n<p><i>Chris<\/i><\/p>\n<p>Chris Adams<br \/>\nBwyllgor Archifau\u2019r Eisteddfod<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n ddrwg gen i, mae&#8217;r cofnod hwn dim ond ar gael mewn English. \u201cThe World Still Sings\u201d is a documentary film of the 1964 International Eisteddfod, directed by Jack Howells and produced jointly by Howells\u2019 own company and the Esso Petroleum Company, Ltd. In 1962, Howells won an Academy Award for his documentary of Dylan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":13840,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[26,27,28,29],"tags":[],"class_list":["post-13854","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-archive-tent","category-featured","category-llangollen-online","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13854","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13854"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13854\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13854"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13854"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13854"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}