{"id":13849,"date":"2020-07-08T07:30:45","date_gmt":"2020-07-08T07:30:45","guid":{"rendered":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/?p=13849"},"modified":"2020-07-08T07:30:45","modified_gmt":"2020-07-08T07:30:45","slug":"the-audio-archive","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/2020\/07\/08\/the-audio-archive\/","title":{"rendered":"Yr Archif Sain"},"content":{"rendered":"<p>Mae recordiadau sain wedi cael eu gwneud o Eisteddfod Llangollen ers yr \u0175yl gyntaf un yn 1947. Yn y rhan o&#8217;n Archif sydd ar hyn o bryd yn cael ei gadw ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol, mae gennym recordiad o G\u00f4r Ieuenctid Coedpoeth yn canu &#8216;Robin Ddiog&#8217; yn ystod Eisteddfod 1947. Nid yw ansawdd y sain yn wych, ond am ychydig dros funud, gallwn fynd yn \u00f4l mewn amser, a gwrando ar y gr\u0175p ifanc hwn yn diddanu eu cynulleidfa, sy&#8217;n rhoi cymeradwyaeth fyddarol iddynt ar ddiwedd y g\u00e2n.<!--more--><\/p>\n<audio class=\"wp-audio-shortcode\" id=\"audio-13849-2\" preload=\"none\" style=\"width: 100%;\" controls=\"controls\"><source type=\"audio\/wav\" src=\"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/CoedpoethYouthChoir_singing_Robin_Ddiog-Lazy-Robin.wav?_=2\" \/><a href=\"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/CoedpoethYouthChoir_singing_Robin_Ddiog-Lazy-Robin.wav\">https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/CoedpoethYouthChoir_singing_Robin_Ddiog-Lazy-Robin.wav<\/a><\/audio>\n<p>Roedd g\u0175yl wedi&#8217;i seilio ar gerddoriaeth yn sicr o geisio dal hanfod yr hyn a oedd yn cael ei berfformio gan y corau, y grwpiau offerynnol a\u2019r unawdwyr a oedd yn cymryd rhan, a chan yr artistiaid a&#8217;r cerddorfeydd gwych a wahoddwyd fel gwesteion arbennig i\u2019r Eisteddfod. Mae&#8217;r recordiadau cynharaf ar ffurf disgiau 78 rpm, ac fel rheol corau unigol sydd ar y disgiau hyn. Roedd y recordiadau sain hyn yn aml yn cael eu darparu trwy garedigrwydd y BBC o&#8217;i darllediadau o Langollen. Mae&#8217;r mwyafrif o recordiadau yn Archif yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol yn cynnwys tapiau sain a wnaed o flwyddyn i flwyddyn ym mhob Eisteddfod, ac sy&#8217;n gofnod sain gwerthfawr o\u2019r rhai a gymerodd ran ym mhob un o&#8217;r cystadlaethau. Rhestrir y rhain fel \u2018Recordiadau Sain Swyddogol\u2019 a wnaed ar ran yr Eisteddfod. Mewn blynyddoedd mwy diweddar defnyddiwyd fformatau sain mwy cyfoes, fel y cas\u00e9t sain a&#8217;r CD, ac yn aml iawn cafodd y rhain eu gwerthu i&#8217;r cyhoedd mewn stondinau ar faes yr Eisteddfod.<\/p>\n<p>Mae rhai o&#8217;r recordiadau hyn yn dal i gael eu cadw ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol, ond mae&#8217;r mwyafrif wedi&#8217;u cadw dros y blynyddoedd yn Archif Sir Ddinbych yn Rhuthun. Un o amcanion ein Prosiect Archifo cyfredol yw digideiddio&#8217;r recordiadau hyn fel eu bod yn dod yn hygyrch i ymholwyr ac ymchwilwyr o bob cwr o&#8217;r byd.<\/p>\n<p>Mae detholiad bychan o recordiadau hwylus eisoes wedi&#8217;i wneud, a chr\u00ebwyd rhestr chwarae, sydd ar gael i&#8217;w chlywed yn y Babell Archifau yn ystod pob Wythnos Eisteddfod. Rydym yn gobeithio adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes, a chreu archif sain a fydd yn cadw llawer o dreftadaeth gerddorol Eisteddfod Llangollen ar gof a chadw i\u2019r dyfodol.<br \/>\n<i>Alan<\/i><br \/>\nAlan Tiltman<br \/>\nBwyllgor Archifau\u2019r Eisteddfod<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n ddrwg gen i, mae&#8217;r cofnod hwn dim ond ar gael mewn English. There have been audio recordings since the first Llangollen Eisteddfod in 1947. In the part of our Archive currently held in the LIME Pavilion, we have a recording of the Coedpoeth Youth Choir singing \u2018Robin Ddiog\u2019 (or \u2018Lazy Robin\u2019) during the 1947 [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":13840,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[26,27,28,29],"tags":[],"class_list":["post-13849","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-archive-tent","category-featured","category-llangollen-online","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13849","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13849"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13849\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13849"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13849"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13849"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}