{"id":13839,"date":"2020-07-07T07:00:01","date_gmt":"2020-07-07T07:00:01","guid":{"rendered":"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/?p=13839"},"modified":"2024-01-16T11:14:43","modified_gmt":"2024-01-16T11:14:43","slug":"archiving-the-past-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/2020\/07\/07\/archiving-the-past-2\/","title":{"rendered":"Archifo&#8217;r Gorffennol"},"content":{"rendered":"<p><br \/>\nRoeddem yn edrych ymlaen at eich cyfarfod chi i gyd yn Eisteddfod eleni a rhannu ein gweledigaeth ar gyfer y prosiect Archifo&#8217;r Gorffennol. Gan nad yw hynny\u2019n bosibl yn anffodus, rydym wedi ysgrifennu nifer o flogiau er mwyn creu Pabell Archif rithwir eleni i s\u00f4n mwy wrthych am y prosiect.<\/p>\n<p><!--more--><br \/>\nY llynedd derbyniodd yr Eisteddfod gyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer ei phrosiect Archifo&#8217;r Gorffennol. Dechreuodd y gwaith ar y prosiect ym mis Tachwedd ac mae\u2019n cael ei wneud gan aelodau o Bwyllgor Archifau\u2019r Eisteddfod ac archifydd y prosiect, Liz Parfitt, a ariennir gan grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Roedd y gwaith yn dod yn ei flaen yn dda cyn i\u2019r cyfnod clo darfu ar bethau. Ar hyn o bryd, rydym yn ceisio cadw pethau i fynd yn y cefndir ac edrychwn ymlaen at ailddechrau arni go iawn cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau presennol yn cael eu codi.<\/p>\n<p><figure id=\"attachment_13843\" aria-describedby=\"caption-attachment-13843\" style=\"width: 345px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-13843\" src=\"https:\/\/international-eisteddfod.co.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Eisteddfod-Week_Blog-1_Newspaper-300x225.jpeg\" alt=\"\" width=\"345\" height=\"259\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-13843\" class=\"wp-caption-text\">Bwyllgor Archifau\u2019r Eisteddfod ac archifydd y prosiect, Liz Parfitt<\/figcaption><\/figure><br \/>\nMae gan yr Eisteddfod Ryngwladol hanes hir ac unigryw y mae angen ei gadw a&#8217;i rannu \u00e2 phawb sydd \u00e2 diddordeb ynddo. Dyna yw union ddiben prosiect Archifo\u2019r Gorffennol &#8211; cadw a rhannu gorffennol yr Eisteddfod ac ysbrydoli cenedlaethau\u2019r dyfodol gyda\u2019i neges o heddwch a gobaith.<\/p>\n<p>Mae gan yr Eisteddfod eisoes gasgliad helaeth o ddeunydd yn ymwneud \u00e2&#8217;i hanes gan gynnwys casgliad cyflawn o raglenni, llawer o ffotograffau a chasgliadau clywedol\/gweledol, ynghyd \u00e2 deunydd ysgrifenedig yn ymwneud \u00e2 rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd, fel cofnodion pwyllgor er enghraifft. Mae llawer iawn o\u2019r deunydd hwn yn cael ei ddal ar ran yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol gan Archifau Sir Ddinbych yn Rhuthun (sydd bellach yn rhan o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru) a gellir ei weld yno. (Gellir adnabod y deunydd hwn trwy ddefnyddio catalog ar-lein Archifau Sir Ddinbych a theipio \u201cDD\/LE\u201d yn y blwch chwilio yn &lt;https:\/\/www.newa.wales\/&gt;.)<\/p>\n<p>Yn ychwanegol at y casgliad sydd eisoes yn cael ei gadw yn Rhuthun, mae gan yr Eisteddfod swm sylweddol o ddeunydd y mae&#8217;r Pwyllgor Archifau yn gofalu amdano ar hyn o bryd yn y Pafiliwn. Mae blynyddoedd lawer o waith ymroddedig yn golygu bod y deunydd hwn wedi&#8217;i drefnu&#8217;n dda ond ar hyn o bryd mae&#8217;r mynediad ato yn gyfyngedig. Un o amcanion y prosiect yw catalogio&#8217;r deunydd hwn a&#8217;i drosglwyddo i Ruthun fel y gall pawb a allai fod \u00e2 diddordeb gael mynediad ato. Roedd gwirfoddolwyr yr archif wedi rhoi cychwyn gwych ar y broses hon cyn i&#8217;r cyfnod clo daro! Un mater o bwys, sydd wedi cael sylw manwl gan y prosiect, yw cadw a diogelu&#8217;r deunydd clywedol\/gweledol &#8211; recordiadau sain, ffilmiau a fideos o berfformiadau yn yr Eisteddfod. Mae&#8217;r rhain yn arbennig o bwysig wrth ddal hanfod yr Eisteddfod ond, yn anffodus, ni ellir mwynhau llawer o&#8217;r recordiadau hyn ar hyn o bryd, ond mwy o achos pryder yw bod perygl iddynt gael eu colli am byth oherwydd bod y cyfryngau y cawsant eu recordio arnynt yn dirywio. Un agwedd o\u2019r prosiect sy\u2019n datblygu felly, yw creu rhestr fanwl o&#8217;r deunydd clywedol\/gweledol sy&#8217;n cael ei ddal ac ym mha fformatau, diben hynny yw rhoi&#8217;r sylfaen i ni baratoi cais am gyllid grant er mwyn i&#8217;r deunydd hwn gael ei gadw a&#8217;i ddigideiddio.<\/p>\n<p>Agwedd allweddol arall ar y prosiect yw cysylltu \u00e2&#8217;r gymuned. Mae llyfr, ffilm ac arddangosfa deithiol newydd am hanes yr Eisteddfod i gyd wedi&#8217;u cynllunio ochr yn ochr \u00e2 phrosiectau ar thema\u2019r Eisteddfod gydag ysgolion lleol yn Llangollen. Bwriedir creu gwefan bwrpasol newydd a fydd gobeithio, yn gweithredu fel pwynt canolog lle gall pobl ddod i wybod am y casgliad archifau, cael mynediad at rywfaint o ddeunydd yn ddigidol a, hefyd, rhannu eu hatgofion a&#8217;u hangerdd eu hunain am yr Eisteddfod.<br \/>\nOs hoffech wybod mwy am y prosiect Archifo&#8217;r Gorffennol, os hoffech wirfoddoli gyda ni neu gael deunydd yr hoffech ei gyfrannu i ni, cysylltwch trwy ein cyfeiriad e-bost: <a href=\"mailto:@archive@llangollen.net\">archive@llangollen.net<\/a><\/p>\n<p><em>Liz<\/em><\/p>\n<p>Liz Parfitt<br \/>\nArchifydd y Prosiect<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n ddrwg gen i, mae&#8217;r cofnod hwn dim ond ar gael mewn English.We were looking forward to meeting you all at this year\u2019s Eisteddfod and sharing our vision for the Archiving the Past project. As this is sadly not possible, we have put together a number of blogs to create a virtual Archive Tent this [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":13840,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[26,27,28,29],"tags":[],"class_list":["post-13839","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-archive-tent","category-featured","category-llangollen-online","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13839","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13839"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13839\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16225,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13839\/revisions\/16225"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13839"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13839"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13839"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}